Mae 24 o feysydd chwarae yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu dan gynlluniau datblygu lleol.

Ond mae’r Aelod Cynulliad Dr Dai Lloyd am warchod y mannau gwyrdd ynghanol trefi a phentrefi drwy gyflwyno mesur i orfodi awdurdodau lleol i drafod eu cynlluniau’n fwy trylwyr gyda phobol leol cyn dechrau datblygu tir.

“Mae yna ryw 30 o feysydd chwarae sy’n berchen i gynghorau lleol sydd o dan fygythiad, sy’n cynnwys meysydd chwarae ysgolion.” meddai AC Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru. “R’yn ni wedi colli 17 yn y tair blynedd diwethaf.”

Yn ôl Dai Lloyd, dyw trigolion lleol ddim yn sylweddoli eu bod ar fin colli eu meysydd chwarae tan eu bod yn rhy hwyr. Dyna pam fod angen ymgynghori’n well â chymunedau.

“Mae’r mesur yn gofyn am hyrdl ychwanegol cyn bod sir yn gwneud y penderfyniad i werthu tir heb ddweud wrth y trigolion lleol, cael ymgynghoriad cyn penderfynu datblygu meysydd chwarae,” meddai Dai Lloyd sy’n cynrychioli Gorllewin De Cymru dros Blaid Cymru.

“Rwy’n gofyn am lythyr i drigolion y ward lle mae’r maes i ddweud beth mae’r cyngor yn meddwl gwneud – cwrteisi syml.”

Dweud beth yw’r bwriad

Tir chwarae yw unrhyw ddarn o dir glas o 0.2 hectar neu fwy sydd wedi ei neilltuo ar gyfer gemau tîm fel rygbi, pêl-droed, tenis neu bowls.

Ar hyn o bryd, y cyfan sydd raid i awdurdod lleol wneud cyn penderfynu gwerthu tir felly i ddatblygwyr yw gosod hysbyseb yn y papur newydd lleol am bythefnos i ddweud beth yw’r bwriad.

“Dy’n ni ddim yn meddwl bod hynny’n ddigon da,” meddai Rhodri Edwards o Meysydd Chwarae Cymru, corff sy’n gweithio i gadw meysydd chwarae.

Daeth i’r Cynulliad i glywed dadl y senedd a rhoi cefnogaeth i Dai Lloyd.

“Rhaid mynd allan at y bobol, cysylltu â nhw’n uniongyrchol a rhoi digon o gyfleon iddyn nhw gael eu dweud. Wedi’r cyfan, pwy sy’n edrych ar yr hysbysebion corfforaethol yn y papur bob wythnos yn gyson? Rhaid newid y broses.”

Maes chwarae v ysgol newydd – profiad Llanrhymni

Mae pobol Llanrhymni Caerdydd yn gandryll gyda chynlluniau i godi ysgol newydd sbon ar ddarn o dir sydd wedi’i ddefnyddio ers cenedlaethau yn gae chwarae.

Bwriad Cyngor Caerdydd yw codi ysgol newydd ar dir y ‘Rec’ neu faes chwarae Rhymni ar ôl cau dwy ysgol uwchradd Saesneg yn yr ardal Llanrhymni a Rhymni.

“Mae’r Cyngor eisiau adeiladu ar ein maes chwarae ni,” eglura Don Taylor o Grŵp Gweithredu Maes Chwarae Rhymni cyn mynd i glywed y drafodaeth ar feysydd chwarae yn y senedd. “Mae yng nghalon y gymuned yn Rhymni a Llanrhymni.

“Mae cymaint o fanteision yn y parc – y coed, y parciau agored, pum maes chwarae. R’yn ni’n amcangyfrif bod y coed rhyw 150-200 oed. Mae 500 ohonyn nhw a bydd y mwyafrif yn cael eu dinistrio [gan y datblygiad].”

Mae’r ymgyrchwyr yn mynnu bod angen gwell trefn i drafod cynlluniau gyda thrigolion lleol.

Cewch ddarllen mwy yn Golwg, Gorffennaf 9