Mae cyfarwyddwr Eisteddfod Llangollen yn gobeithio bydd y bobol a fyddai wedi mynd i wŷl y Faenol fis Awst yn mentro i’r wŷl ryngwladol yr wythnos hon.
“Rydan ni yn gobeithio,” meddai Mervyn Cousins, “y bydd pobol sy’n arfer dod am brofiad cerddorol i ogledd Cymru ar ŵyl y banc mis Awst falle yn dod yr wythnos yma yn lle. Efallai y flwyddyn nesa; y byddan nhw’n dod i’r ddwy.”
Ddechrau’r wythnos, clywodd y trefnwyr y bydd yn cael £1 miliwn at y gost o gynnal a chadw’r Pafiliwn gan y Cynulliad, a £600,000 gan Gyngor Sir Ddinbych.
“Mae angen i’r pafiliwn adlewyrchu’r ffordd mae’r Eisteddfod yn datblygu,” meddai Mervyn Cousins, a ddechreuodd yn y swydd y llynedd, gan olynu Gwynne Williams.
“Os allwch chi ddweud wrth rywun – ‘mi wnawn ni eich rhoi chi yn y pafiliwn ar ei newydd wedd,’ efallai y gwnawn ni ddenu enwau mwy.”
Roedd noson ychwanegol eleni,ar drohwy’r wyl ei hun, cyngerdd agoriadol gyda Mark Evans o Lanrhaeadr, Côr Godre’r Aran, Côr Frongysyllte, a’r gantores 13 oed, Faryl Smith a ddaeth i sylw’r byd ar raglen Britain’s Got Talent.
Canodd Faryl Smith ‘Calon Lân’ “ag arddeliad” yn ôl Mervyn Cousins – “mae hi’n real star. “ Y bwriad oedd gwella proffil yr ŵyl a gwerthu rhagor o docynnau,” meddai. “Fe weithiodd.”
Cewch ddarllen y stori’n llawn yn Golwg, Gorffennaf 9.