Mae Jill Evans eisiau i bedwar Aelod Seneddol Ewropeaidd (ASE) Cymru gydweithio er budd y wlad – rhywbeth na ddigwyddodd yn y gorffennol meddai.
Am y tro cyntaf mae Cymru wedi ethol ASE gwrth-Ewropeaidd.
Yn ogystal â bod eisiau diddymu’r Senedd Ewropeaidd, mae John Bufton o’r United Kingdom Independence Party eisiau diddymu Senedd Cymru a rhoi’r hawl unwaith eto i Lywodraeth Prydain reoli Cymru o Lundain.
Ond er gwaethaf ei safbwyntiau gwrth-ddatganoli, mae Jill Evans yn gobeithio gallu gweithio gyda John Bufton ar lefel Ewropeaidd.
‘Paned o de a sgwrs’
“Yn y gorffennol mae aelodau UKIP yn Senedd Ewrop wedi ymatal eu pleidlais,” meddai Jill Evans.
“Os yw hynny ‘n digwydd gyda’r aelod o Gymru, byddwn i’n siomedig dros ben achos mae’n golygu mai tri aelod sydd ganddon ni’n brwydro dros Gymru yn Ewrop, nid pedwar.
“Felly dwi wedi gofyn i’r lleill i ddod i gyfarfod yn Strasbourg mewn tair wythnos, y Senedd llawn cyntaf yn Strasbourg, jyst i gael paned a sgwrs ac i benderfynu, dwi’n gobeithio, i gydweithio, a dwi’n gobeithio bydd e’ [John Bufton] yn gwneud hynny hefyd.”
Mae Jill Evans yn ASE ers deng mlynedd, ac wedi ceisio cydweithio gydag aelodau eraill o Gymru yn y gorffennol.
Methu fu’r hanes yn y gorffennol, pan oedd gan Lafur ddwy aelod – Eluned Morgan a Glenys Kinnock – oedd yn mwynhau colbio Plaid Cymru bob cyfle.
‘Colli cyfle’
Ond nawr, gyda’r ddwy blaid mewn clymblaid yn y Bae, mae Jill Evans yn gobeithio y bydd cyfle i glosio yn Ewrop hefyd.
“D’yn ni wedi colli cyfle sawl gwaith i ddangos cryfder o Gymru ar bynciau d’yn ni gyd yn cytuno,” meddai Jill Evans.
“Materion amaethyddol, pethau am gronfeydd o Ewrop, llawer o bethau lle ro’n ni gyd yn gallu cytuno bod ni eisiau y gorau i Gymru.
“A bydde fe wedi bod yn bosib i’r pedwar ohonon ni fynd at y Comisiwn, lobïo, sgrifennu llythyron, beth bynnag, yn enw Cymru.”
Cewch ddarllen y stori’n llawn yn Golwg, Gorffennaf 9.