Bydd pump aelod o dŷ Big Brother yn wynebu pleidlais y cyhoedd nôs fory, a hynny oherwydd camfihafio.

Gall Charlie, Kris, Sophie, Freddie a Marcus adael y tŷ nos Wener, gyda’r tri cynta’n cael eu henwebu am drafod y broses, yn groes i reolau’r rhaglen.

Doedd Freddie ddim yn synnu ei fod ef wedi ei enwebu eto gan ei gyd-gystadleuwyr – y pumed gwaith i’r gŵr, sydd a’i fryd ar fod yn wleidydd.

“Mae’n teimlo’n brafiach fod hanner y tŷ’n wynebu’r bleidlais hefyd tro yma,” meddai.