Fe allai 50,000 o ddarpar fyfyrwyr fethu â chael lle mewn prifysgolion yn Lloegr eleni, oherwydd cynnydd mawr yn nifer y ceisiadau.

Mae’r Llywodraeth eisoes wedi cyhoeddi mai dim ar gyfer 10,000 o lefydd ychwanegol y bydd yna arian yn yr hydref – er fod ffigurau newydd y corff derbyn, UCAS, yn dangos cynnydd o 9.7% yn y ceisiadau am lefydd mewn prifysgol.

Mae ffigyrau UCAS yn dangos cynnydd mwy ymhlith myfyrwyr hŷn – 18% mewn ymgeiswyr dros 25 oed, a 14.9% rhwng 21 a 24 oed.

Effaith y dirwasgiad

Un esboniad am y cynnydd yw bod gweithwyr oedd wedi eu taro gan y dirwasgiad wedi penderfynu dychwelyd i fyd addysg.

Mae gwleidyddion wedi eu cyhuddo o “gerdded yn eu cwsg i ganol argyfwng” am beidio â gweithredu yn gynt.

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar brifysgolion mai pobol ifanc oedd “dioddefwyr mwyaf y dirwasgiad. Mae nifer y bobol ifanc sydd heb fod mewn addysg, gwaith na hyfforddiant wedi codi’n uwch nag erioed.”

Mae’r drefn yn wahanol yng Nghymru ond mae prifysgolion yn dweud fod cynnydd mawr yn y ceisiadau iddyn nhwthau hefyd.