Mae Undeb y Frigâd Dân wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus i’r tân a laddodd chwech o bobol yn Camberwell, Llundain.

Mae’r gwasanaeth tân wedi cael eu beirniadu am fod yn araf yn cyrraedd ac fe fu pryderon hefyd am gynllun y bloc o fflatiau.

Mae’r undeb yn dadlau fod sylwadau papur newydd y Sun am weithwyr a swyddogion tân yn “gadael pum aelod o’r cyhoedd i farw” yn annerbyniol.

Mae’r Undeb yn dadlau fod y cyhuddiad yn un “cwbl ddifrifol” ac na ddylai fod wedi ei wneud.

Ymchwiliad “agored” ac “heriol”

Mae’r Undeb wedi ysgrifennu at yr Aelod Seneddol Harriet Harman, at Faer Llundain, Boris Johnson, a’r gweinidog Shahid Malik, yn galw am ymchwiliad “agored” a “heriol” i mewn i’r ffordd y deliwyd â’r tan.

Dim ond ymchwiliad fyddai’n bodloni chwant y cyhoedd am y gwir, meddai’r Undeb.

Dywedodd Matt Rack, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb y Frigad Dân: “Yn rhinwedd ein gwaith, r’yn ni’n fwy nag ymwybodol o’r effaith y mae marwolaethau mewn tân yn ei gael ar fywydau pobol a chymunedau.

“Os oes gwersi i’w dysgu, mae angen ymchwiliad cadarn a heriol i mewn i’r achos.”