Mae tref yn Awstralia wedi gwahardd gwerthu dŵr potel er mwyn helpu’r amgylchedd ac roedd preswylwyr Bundanoon yn dathlu ar ôl pleidlais unfrydol bron o blaid y gwaharddiad ddoe.
Dyma’r ail ergyd i ddiwydiant dŵr potel y wlad o fewn diwrnod. Oriau’n gynharach roedd talaith New South Wales wedi gwahardd adrannau ac asiantaethau llywodraeth rhag ei brynu gan ddatgan ei fod yn “wastraff arian ac adnoddau naturiol”.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae dros 60 o ddinasoedd yn yr Unol Daliaethau, Canada a Phrydain wedi cytuno i roi’r gorau i wario arian trethdalwyr ar ddŵr potel mewn cyfarfodydd a chynadleddau.
Dileu dewis i bobol?
Dim ond dau berson yn y dref a bledleisiodd yn erbyn y mesur a dywedodd un y byddai gwahardd dŵr potel yn annog pobol i yfed mwy o ddiodydd siwgwrllyd.
Dywedodd y llall bod y diwydiant yn arwain y ffordd o ran lleihau effaith ar yr amgylchedd ac mai’r prynwr ddylai ddewis.
Er mwyn gwarchod busnesau lleol sy’n gwerthu dwr potel, awgrymwyd eu bod nhw’n gwerthu poteli y mae modd eu hail ddefnyddio am yr un pris.
Bydd pobl y dre wedyn yn gallu llenw’r poteli hyn mewn ffynhonau dwr neu dalu ffi bychain i ail lenwi eu poteli gyda dŵr ffiltr o’r siopau.
Ni fydd unrhyw un sy’n dewis peidio a chydymffurfio’r â’r mesur yn cael eu cosbi pan ddaw i rym mis Medi nesaf – ond mae arweinwyr y busnesau lleol i gyd wedi cytuno i ufuddhau i’r gwaharddiad.