Mae o leia’ 69 o bobol yng Ngorllewin India wedi marw ar ôl yfed alcohol cartref.

Bu farw’r gweithwyr, sy’n bennaf o ardaloedd y slymiau, ar ôl yfed diod lleol o’r enw‘desi daru.’ Mae’r ddiod yn cael ei gymysgu’n aml â phaleiddiad a chemegau amrywiol er mwyn ei gryfhau.

Methu fforddio trwyddedau alcohol

Dechreuodd y gweithwyr deimlo’n sal ar ôl sesiwn yfed dros y penwythnos yn Ahmadabad, un o brif ddinasoedd talaith Gujarat.

Mae prif swyddog trefol Ahmadabad wedi cadarnhâu bod 120 o bobol eraill yn cael eu trin mewn pedair ysbyty.

Dyw marwolaethau ar ôl yfed alcohol cartref ddim yn anghyffredin yn India yn rhannol oherwydd fod llawer yn methu â fforddio trwyddedau alcohol.