Mae’n bosib y bydd gweithwyr yng nghanolfan ddosbarthu Tesco yng Nghas-gwent yn mynd ar streic, yn ôl y papur lleol.
Protest yw’r streic yn erbyn symud eu swyddi i Loegr, yn ôl y South Wales Argus, sy’n dweud y bydd tua 750 o weithwyr yn penderfynu’r wythnos hon a ydyn nhw am fynd ar streic ai peidio.
Os yw Tesco’n penderfynu parhau gyda’u cynlluniau byddai swyddi’r gweithwyr yn cael eu symud dros afon Hafren i Fryste, fis Chwefror nesaf.
Er mai dim ond wyth milltir i ffwrdd fyddai’r ganolfan ddosbarthu newydd, byddai’n golygu talu £5.40 bob diwrnod i fynd dros Bont Hafren.
Byddai hynny’n ychwanegu £1,500 at gost teithio’r gweithwyr o Gymru bob blwyddyn.
“Pecyn tâl ymhlith y gorau yn y diwydiant”
Mae’r gweithwyr yng Nghas Gwent wedi cael cynnig swyddi yn y safle newydd a dywedodd llefarydd ar ran Tesco wrth Golwg 360 fod y cwmni’n bwriadu talu cost y teithio am ddwy flynedd i weithwyr canolfan ddosbarthu Cas-gwent.
“Mae’r pecyn tâl presennol ynghyd â’r un fydd gweithwyr yn ei dderbyn wedi symud, ymhlith y gorau yn y diwydiant,” meddai llefarydd ar ran Tesco.