Mae Cyfarwyddwr Gŵyl Rhyngwladol Llangollen wedi rhybuddio y gall yr ŵyl wneud colled oherwydd y dirwasgiad.
Dywedodd Mervyn Cousins bod lefel y cymorthdal i gystadleuwyr tramor wedi codi’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, gan cynnwys costau trafnidiaeth a llety.
All yr Eisteddfod ddim fforddio gwneud colled, meddai wrth bapur newydd y Western Mail – a hynny ar ôl i Lywodraeth Cynulliad Gymru ddweud y bydden nhw’n rhoi £1 miliwn i adref pafiliwn yr ŵyl.
Bydd Cyngor Sir Ddinbych hefyd yn cyfrannu gwerth £600,000.