Mae gan un cyflwr geneteg prin y sgil effaith o wneud pobol yn or-gyfeillgar, yn ol ymchwil gan Brifysgol Bangor.
Mae Dr Debra Mills o’r brifysgol wedi darganfod bod meddyliau pobol sy’n dioddef o gyflwr Williams yn gor-ymateb i wynebau hapus ac yn llai tebygol o ymateb i rai blin.
“Mae pobol sy’n diodde’ yn medru bod yn unigolion gyfeillgar – mor gyfeillgar fel eu bod nhw’n medru rhoi eu hunain mewn peryg,” meddai Debra Mills.

“Roeddwn ni’n meddwl efallai mai’r rheswm y maen nhw’n cael eu gyrru i fynd fyny at bobol oedd oherwydd bod eu hymateb nhw i wynebau hapus mor ddwys.

“Mae’n gyflwr sy’n cael ei achosi gan ddilead o tua 25 o enynnau ar gromosom 7.”