Bydd chwedl Beddgelert yn cael ei ail ddweud drwy gyfrwng blodau wrth i grwp o Gymry obeithio bachu medal aur mewn sioe yn Lloegr.
Mae’r myfyrwyr o Goleg Garddwriaeth Cymru am ail-greu hanes y ci Gelert ar ffurf gwely o flodau yn Sioe Flodau Tatton ym mis Mehefin.
Bydd y blodau yn cael eu gosod yn siap Gelert, crud y baban yr oedd yn ei amddiffyn rhag y blaidd, a’r goeden ble mae rhai yn honni y mae ei gorff wedi ei gladdu.
Dywedodd y myfyrwyr eu bod nhw eisiau dewis themau oedd yn cynrychioli Cymru yn ei gyfanrwydd.
“Dyma’r gardd sioe cyntaf y mae’r myfyrwyr wedi ei greu,” meddai Sue Nicholas, un o ddarlithwyr y coleg. “Fe fydd o’n dipyn o sialens.”