Mae disgybl yn un o ddosbarthiadau derbyn Ysgol yr Hendre yng Nghaernarfon wedi profi’n bositif am y coronafeirws.

Bydd yr ysgol nawr yn cau’r ddau ddosbarth derbyn am bythefnos, gyda disgyblion yn gorfod hunanynysu drwy gydol y cyfnod hwnnw.

Dywedodd Kyle Jones, prifathro’r ysgol, fod y disgybl wedi profi’n bositif dros y penwythnos.

Ond ar hyn o bryd, dim ond disgyblion y dosbarthiadau derbyn, sy’n cynnwys tua 50 o blant, fydd yn gorfod hunanynysu.

Llythyr

Mewn llythyr at rieni, dywedodd Kyle Jones y byddai rhagor o gyngor yn cael ei ddarparu gan y tîm Profi ac Olrhain.

“Mae’n ddrwg gennyf orfod rhoi gwybod ichi, ond yn anffodus mae wedi dod i’r amlwg bod disgybl dosbarth derbyn wedi profi’n bositif am Covid-19 dros y penwythnos,” meddai.

“O ganlyniad i hyn, byddwn yn cau’r ddau ddosbarth derbyn am gyfnod o ddwy wythnos gan ddechrau ar ddydd Llun 14/09/20.

“Byddwn mewn cysylltiad gyda chi dros y dyddiau nesaf ac rydym yn gofyn yn glên i chi ddilyn a chadw at gyngor y tîm Profi ac Olrhain er mwyn diogelu eich hunain ac eraill.

“Edrychwch ar ôl eich hunain.”