Mae Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, yn hunanynysu fel rhagofal gan fod gan rywun ar yr aelwyd symptomau’r coronafeirws.

Fe fydd yn parhau i weithio, ond fydd e ddim yn San Steffan heddiw (dydd Llun, Medi 14).

Daeth y sefyllfa i’r amlwg yn fuan ar ôl iddo gymryd rhan mewn sioe radio gyda Nick Ferrari ar LBC, ac mae ei swyddfa wedi rhoi gwybod i’r orsaf.

Mae llefarydd yn dweud bod y person sydd â symptomau wedi cael prawf.