Mae cwmni creu teledu Bad Wolf wedi ehangu ei gefnogaeth i wobr Iris i £10,000 eleni, wrth i’r ŵyl ffilmiau LHDTQ+ ddathlu ei phen-blwydd yn 18 oed.

Cynhelir Gŵyl Gwobr Iris yn Sinema Vue, Caerdydd, ym mis Hydref ac mae £30,000 ar gael i’r enillydd wneud ffilm thema LHDTQ+.

Yn y llun, o’r chwith i’r dde, mae Cass Virdee, Kenzo Miyake-Mugler a Maria Salcher, sef Cyfarwyddwr, Prif Actor a Chynhyrchydd Realness with a Twist, y ffilm wnaeth ennill yn y categori Ffilm Brydeinig Orau yng Ngwobrau Iris y llynedd.