Mae mwy o bobol yn osgoi’r newyddion y dyddiau hyn, a hynny am ei fod yn ddiflas, yn ddiddiwedd ac yn codi’r felan – yn ôl gwaith ymchwil gafodd ei gyhoeddi ddechrau’r wythnos.

Fe gafodd bron i 100,000 o oedolion eu holi mewn 47 o wledydd ar gyfer yr arolwg Digital News Report, sydd wedi ei ddadansoddi gan y Reuters Institute ym Mhrifysgol Rhydychen.