Rydw i’n meddwl y bu hi’n haws gwylio twrnameintiau cyn 2016. Yn y dyddiau cyn Haf gorau ein bywydau, doedden ni ddim yn gwybod yn iawn beth yr oedden ni’n methu. Erbyn hyn, rydyn ni wedi bod i Ffrainc a Qatar, ac rydyn ni’n gwybod ein bod ni’n colli allan ar barti mawr bendigedig. Roedd rhai  wedi bod i Azerbaijan ar gyfer Euro 2020 hefyd yn ystod y cyfnod covid, ac yn ôl pob sôn, hwnna oedd y parti gorau erioed.