Mae’r Cymro Steve Cooper wedi’i benodi’n rheolwr tîm pêl-droed Caerlŷr.

Mae cyn-reolwr Abertawe a Nottingham Forest wedi llofnodi cytundeb tan 2027, wrth i’r clwb baratoi ar gyfer eu tymor cyntaf yn ôl yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Rhwng 2021 a 2023, llwyddodd e i achub Nottingham Forest rhag y gwymp o’r Uwch Gynghrair.

Ac yn dilyn cyfnodau llwyddiannus gydag Abertawe a thimau oedran Lloegr, mae e wedi magu enw da iddo fe ei hun fel arweinydd cryf.

Dywed Aiyawatt Srivaddhanaprabha, cadeirydd y clwb, fod eu gweledigaeth nhw a gweledigaeth eu rheolwr newydd yn “cyd-fynd i raddau helaeth iawn â’n dyheadau ar gyfer y clwb”, a bod ei allu i feithrin perthynas â’r chwaraewyr a’r cefnogwyr am fod yn bwysig i’r clwb.

‘Wedi cyffroi ac yn falch’

“Dw i wedi cyffroi’n fawr ac yn falch o gael fy mhenodi’n rheolwr tîm cyntaf Caerlŷr,” meddai Steve Cooper.

“Mae hwn yn glwb gwych â hanes cyfoethog a chefnogwyr angerddol.

“Dw i wedi cyffroi o gael gweithio gyda charfan mor ddawnus, a dw i’n edrych ymlaen at yr her o wireddu ein huchelgeisiau cyffredin yn yr Uwch Gynghrair.”

Bywyd a gyrfa

Ac yntau’n hanu o Gwm Rhondda, daeth Steve Cooper yn un o’r hyfforddwyr ieuengaf erioed i ennill trwydded gan UEFA, ac yntau’n 27 oed pan oedd yn hyfforddi Academi Wrecsam.

Gadawodd y clwb i ymuno â Lerpwl, lle bu’n gwneud swydd debyg cyn cael ei enwi’n rheolwr yr Academi ac yn hyfforddwr y tîm dan ddeunaw yn 2012-13.

Yn 2014, cafodd ei benodi’n rheolwr tîm dan 16 Lloegr ac yna’n rheolwr y tîm dan 17, gan arwain y tîm hwnnw i fuddugoliaeth yn rownd derfynol yr Ewros yn 2017, gan ddod yn bencampwyr y byd rai misoedd yn ddiweddarach.

Cafodd ei benodi’n rheolwr Abertawe yn 2019, gan orffen yn chweched yn y Bencampwriaeth y tymor hwnnw i sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle.

Fe wnaeth yr Elyrch orffen yn bedwerydd y tymor canlynol, gan sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle unwaith eto a cholli’r rownd derfynol yn erbyn Brentford.

Cafodd ei benodi’n rheolwr Nottingham Forest ar ôl gadael Abertawe yn 2021, gan achub y clwb rhag y gwymp a gorffen yn bedwerydd a chyrraedd y gemau ail gyfle mewn cyfnod byr.

Ar ôl cyrraedd y gemau ail gyfle, llwyddon nhw i gyrraedd yr Uwch Gynghrair, ond dechreuon nhw’n wael y tymor canlynol gan wynebu’r posibilrwydd o ddychwelyd i’r Bencampwriaeth unwaith eto.

Steve Cooper

Caerlŷr gam yn nes at benodi cyn-reolwr Abertawe

Mae adroddiadau bod Steve Cooper ar fin llofnodi cytundeb i ddod yn rheolwr y clwb
Graham Potter

Caerlŷr yn llygadu dau o gyn-reolwyr Abertawe

Graham Potter yw’r ffefryn ar gyfer swydd y rheolwr, yn ôl adroddiadau, ond maen nhw hefyd yn ystyried Steve Cooper

“Fel dyddiau olaf Bobby Gould”

Alun Rhys Chivers

Mae’n anodd gweld dyfodol i Rob Page yn swydd rheolwr tîm pêl-droed Cymru, yn ôl Dylan Ebenezer