Mae’r prop Henry Thomas allan o gêm rygbi Cymru yn erbyn De Affrica yn Twickenham ddydd Sadwrn (Mehefin 22), ar ôl anafu ei droed.

Keiron Assiratti fydd yn dechrau’r gêm yn ei le, gyda Harri O’Connor bellach wedi’i enwi ymhlith yr eilyddion.

Yn y cyfamser, mae’r asgellwr Regan Grace o glwb Caerfaddon wedi’i alw i garfan ehangach Cymru ar gyfer gemau’r haf, ar ôl i Keelan Giles o’r Gweilch gael ei ryddhau o’r garfan yn sgil anaf i linyn y gâr.

Jac Morgan allan o garfan rygbi Cymru ag anaf

Bydd Dewi Lake yn gapten yn ei le