Ynysoedd y Falkland
Bydd Yr Ariannin yn rheoli ynysoedd y Falkand o fewn 20 mlynedd meddai Gweinidog Tramor y wlad heddiw.
Wrth iddo ymweld â Llundain am y tro cyntaf, fe wnaeth Hector Timerman ddiystyru ateb milwrol i’r anghydfod dros sofraniaeth yr ynysoedd, ond dywedodd bod Prydain yn ynysig yn rhyngwladol wrth hawlio’r ynysoedd.
Mewn cyfweliad ar y cyd gyda phapurau newydd The Guardian a The Independent, cyhuddodd Prydeinwyr o fod yn “ffanatics” a dywedodd eu bod nhw ond â diddordeb yn yr ynysoedd oherwydd eu cronfeydd olew.
“Nid wy’n credu y bydd hi’n cymryd 20 mlynedd arall,” meddai.
“Rwyn credu bod y byd yn mynd trwy broses o ddeall mwy a mwy bod hwn yn fater trefedigaethol, mater o wladychiaeth, a bod y bobl sy’n byw yno yn cael eu trosglwyddo i’r ynysoedd.”
Gwrthod Cyfarfod
Amddiffynnodd Hector Timerman ei benderfyniad i wrthod cwrdd â’r ysgrifennydd tramor, William Hague, yn ystod ei ymweliad ar ôl i’r Swyddfa Dramor fynnu cael cynrychiolwyr o’r ynysoedd yn bresennol yn y trafodaethau.
“Nid oes un wlad yn y byd sy’n cefnogi hawl y Deyrnas Unedig i lywodraethu dros y Malvinas,” meddai.
“Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, dim ond dwy blaid sy’n gwrthdaro – y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth yr Ariannin. Mae’n fater sy’n rhaid ei ddatrys gan Yr Ariannin a’r Deyrnas Unedig,” meddai.
“Drwy gyflwyno trydydd parti (trigolion yr ynysoedd), mae’r Deyrnas Unedig yn newid mwy na 40 o benderfyniadau gan y Cenhedloedd Unedig sy’n galw ar y ddwy wlad i gyd-drafod.”