Mae merch 19 oed o Brydain wedi boddi mewn pwll nofio ar ôl noson allan gyda ffrindiau mewn safle sgïo yn Ffrainc.

Roedd Lucy Sallis o Bognor Regis, Sussex wedi ei dal yn gaeth o dan orchudd y pwll nofio ar ôl iddi neidio mewn yn nhref Alpe d’Huez, yn ôl adroddiadau.

Credir ei bod wedi bod yn yfed gyda ffrindiau cyn iddyn nhw benderfynu dringo dros ffens a mynd i nofio yn y pwll yn oriau man bore ddoe.

Yn ôl adroddiadau fe fethodd a dod i’r wyneb ar ôl plymio i mewn i’r pwll. Fe geisiodd ei ffrindiau chwilio amdani o dan y gorchudd ac fe ddaethon nhw o hyd i’w chorff ond roedden nhw wedi methu ei hachub.

Roedd Lucy Sallis yn gweithio yng ngwesty’r Belle Aurore yn yr Alpau yn Ffrainc.

Fe gadarnhaodd yr heddlu heddiw bod dynes wedi boddi yn y pwll nofio.

Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi iddi ar Twitter.