Bannau Brycheiniog
Cafodd cwest i farwolaeth milwr, y cafwyd hyd i’w gorff ym Mannau Brycheiniog nos Sadwrn, ei agor a’i ohirio.

Cafwyd hyd i gorff y Capten Rob Carnegie ar fynydd ger Corn Du, Storey Arms tua 9.42yh.

Roedd Capten Carnegie, oedd yn dod o Ddulyn, yn aelod o’r  Royal Signals.

Mae ei deulu wedi rhoi teyrnged iddo gan ddweud ei fod yn “fab, brawd ac ewythr cariadus.”

Mae Heddlu Dyfed Powys yn parhau i ymchwilio i achos ei farwolaeth.