Mae deg o swyddogion y llywodraeth yn China wedi eu diswyddo, ar ôl cael eu dal ar ffilm yn cael rhyw gyda merched oedd yn gweithio i ddynion busnes oedd eisiau eu blacmelio.

Cafodd y swyddogion eu ffilmio’n cael rhyw heb yn wybod iddyn nhw, gyda’r bwriad o’u gorfodi i ddangos ffafriaeth wrth ddyfarnu cytundebau adeiladu.

Mae’r cyfryngau yn China yn adrodd heddiw bod swyddogion y llywodraeth yn ninas Chongqing wedi eu diswyddo ar ôl ymddangos yn y fideo.

Daw’r sgandal ddiweddara’ wrth i arweinyddiaeth newydd China addo taclo swyddogion llwgr sy’n rhemp yn y wlad.

Yn yr wythnosau diwetha’ daeth i’r fei bod rhai o swyddogion y llywodraeth wedi hawlio sawl eiddo trwy ddefnyddio enwau ffug.

Gan bod prisiau tai wedi cynyddu’r arw yn China, mae’r math yma o lygredd yn dân ar groen nifer o bobol gyffredin sy’ methu fforddio cartrefi.