Mae geiriadur Saesneg-Gwyddeleg newydd yn cael ei lansio heddiw gan Arlywydd Iwerddon, Michael D Higgins.

Fel Geiriadur yr Academi yng Nghymru – y Briws – mae’r geiriadur Gwyddeleg yn rhad ac am ddim i ddefnyddwyr ac ar gael ar gyfrifiaduron neu ddyfeisiadau symudol.

Mae’n cynnwys enghrefftiau o’r geiriau yn cael eu defnyddio mewn cyd-destun a ffeiliau sain i ddangos yr ynganiad, a’r cyfeiriad yw focloir.ie.

Foras na Gaeilge, corff cyhoeddus sy’n hyrwyddo’r Wyddeleg, sy’n cyhoeddi’r wefan a bydd darnau yn cael eu cyhoeddi gam wrth gam gyda’r bwriad o gael geiriadur cyflawn erbyn diwedd 2014.

Mae 30% o’r cynnwys cyfan ar gael o heddiw ymlaen, sy’n cynrychioli 80% o ddefnydd cyffredin yr iaith Saesneg medd Foras na Gaeilge.

Mae disgwyl fersiwn brint o’r geiriadur yn 2015.