Benjamin Netanyahu
Mae disgwyl i Benjamin Netanyahu gael ei ail-ethol fel prif weinidog Israel wrth i drigolion y wlad fwrw eu pleidlais heddiw.

Mae’r rhan fwyaf o bobl y wlad yn credu nad yw hi’n bosib cyrraedd cytundeb heddwch gyda’r Palesteiniaid hebddo ac mae wedi llwyddo cyfathrebu ei neges i’r etholwyr ei fod yn arweinydd profiadol.

Mae hyn er bod Israel yn gynyddol ynysig o weddill y gymuned ryngwladol, bod economi’r wlad yn arafu, a’r ffaith bod y Gweinidog Tramor wedi gorfod ymddiswyddo yn sgil honiadau o lygredd.

Ond mae Benjamin Netanyahu wedi cadw ei drwyn ar y blaen yn y polau piniwn gan ddweud bod y wlad angen arweinydd fel fo i wynebu peryglon fel rhaglen niwclear Iran, y potensial o arfau cemegol a allai ddod o Syria ac esgyniad Mwslemiaid ffwndamentalaidd yn yr Aifft a gwledydd eraill.

Mae anallu ei wrthwynebwyr i ddewis gwrthwynebydd cryf hefyd wedi bod o fudd i’r prif weinidog.

Y tebygolrwydd yw y bydd Benjamin Netanyahu yn llwyddo i ennill ei drydydd tymor fel prif weinidog Israel.