Lance Armstrong
Yn ôl y disgwyl, mae’r beiciwr Lance Armstrong wedi cyfadde’i fod wedi defnyddio cyffuriau’n gyson wrth ennill saith o deitlau Tour de France.

Ond, ar raglen deledu Oprah Winfrey yn yr Unol Daleithiau, fe fu’n amddiffyn ei ymddygiad hefyd gan awgrymu fod pawb arall wrthi hefyd.

Roedd cymryd cyffuriau “fel cael awyr yn eich teiars neu ddŵr yn eich potel”, meddai. “Roedd yn rhan o’r gwaith.”

Mae ei ddatganiadau wedi cael eu condemnio gan feicwyr eraill, gan gynnwys y bencampwraig o Gymru, Nicole Cooke.

Fe gollodd Lance Armstrong ei holl deitlau Tour de France ar ôl i adroddiad yn yr Unol Daleithiau ddangos ei fod wedi cymryd cyffuriiau’n gyson.