afle nwy BP yn Algeria
Mae hyd at 20 o bobl oedd yn cael eu dal yn wystlon gan grŵp milwriaethus Islamaidd yn Algeria wedi llwyddo i ddianc, yn ol adroddiadau.
Mae un Prydeiniwr wedi cael ei ladd ac mae na bryder bod eraill wedi eu lladd gan y grŵp milwriaethus mewn safle nwy BP yn nwyrain y wlad.
Yn ol swyddog o lywodraeth Algeria mae 20 o bobl, gan gynnwys Ewropeaid ac Americanwyr, wedi llwyddo i ddianc. Mae’r grŵp wedi honni eu bod nhw’n dal 41 o dramorwyr yn gaeth. Nid yw’r Swyddfa Dramor wedi gallu cadarnhau’r adroddiadau.
Ac mae llywdraeth Prydain wedi dweud eu bod nhw’n caniatáu i lywodraeth Algeria gymryd yr awenau yn yr argyfwng. Dywedodd Downing Street nad ydyn nhw wedi derbyn unrhyw geisiadau am gymorth.
Roedd y grŵp Islamaidd yn honni eu bod nhw’n dal y 41 o bobl yn wystl er mwyn dial am ymyrraeth Ffrainc yn erbyn y gwrthryfelwyr ym Mali.