Dr Huw Jones
Wedi 15 mlynedd wrth y llyw, mae prif weithredwr Chwaraeon Cymru, Dr Huw Jones wedi cyhoeddi ei ymddeoliad heddiw.

Bydd Dr Huw Jones yn parhau yn ei swydd yn  arwain y mudiad, sydd yn gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo chwaraeon yng Nghymru, tan yr haf.

“Rydw i’n hynod falch o’r gwaith y mae Chwaraeon Cymru wedi ei ymgymryd dros y 15 mlynedd diwethaf i ddatblygu chwaraeon yng Nghymru.  Er mwyn i’r mudiad gyrraedd ei photensial rydw i’n derbyn bod Chwaraeon Cymru angen arweiniad newydd, gyda syniadau a dulliau gwahanol,” meddai Huw Jones.

Ymunodd Dr Huw Jones â Chyngor Chwaraeon Cymru yn 1988, gan ddod yn brif weithredwr deng mlynedd yn ddiweddarach.

Mae gweinidog chwaraeon Cymru, Huw Lewis, wedi diolch i Dr Huw Jones am ei ymroddiad i Chwaraeon Cymru.

“Hoffwn ddiolch i Huw am ei holl waith caled fel prif weithredwr Chwaraeon Cymru dros y 15 mlynedd diwethaf.  Yn dilyn blwyddyn  wych i chwaraeon Cymraeg yn 2012, mae’n gadael ar nodyn uchel ac rydw i’n hyderus y gall ei gyd-weithwyr barhau gyda’r gwaith arbennig maent yn eu gwneud i gefnogi a hyrwyddo chwaraeon yng Nghymru ar bob lefel.”