Silvio Berlusconi
Mae barnwr yn yr Eidal wedi gwrthod cais y cyn-brif weinidog Silvio Berlusconi i ohirio ei achos llys fel ei fod yn gallu canolbwyntio ar ei ymgyrch yn yr etholiad cyffredinol.
Mae Berlusconi, 76, wedi ei gyhuddo o dalu i gael rhyw hefo Karima el-Mahroug yn 2010, pan oedd hi’n 17. Mae el-Mahroug, sy’n wreiddiol o Foroco, wedi gwadu gweithio fel putain, ac mae’r ddau wedi gwadu cael rhyw gyda’i gilydd.
Roedd cyfreithiwr Berlusconi wedi gofyn am ohirio’r achos, gan ei fod yn ymgyrchu yn yr etholiad i ddewis prif weinidog newydd, a buasai’n rhy brysur i fynychu’r llys. Roedd ’na bryderon hefyd y gallai’r achos effeithio canlyniad yr etholiad ar 24-25 Chwefror. Mae Berlusconi yn gobeithio cael ei ethol i fod yn brif weinidog unwaith eto, wedi iddo adael y swydd yn 2011.
Mae Berlusconi hefyd wedi ei gyhuddo o gamddefnyddio ei rym, yn dilyn honiadau ei fod wedi ceisio dylanwadu swyddogion yr heddlu oedd wedi arestio el-Mahroug.
Dywedodd Berlusconi ei fod wedi siarad gyda’r heddlu, ond nid oedd wedi eu rhoi dan bwysau, ac roedd unrhyw arian a oedd wedi ei roi i Karima el-Mahroug yn anrheg.
Os yw’r llys yn ei gael yn euog, gall Berlusconi wynebu hyd at 15 mlynedd yn y carchar.