Mae rhywun o Gymru ymhlith pedwar o bobl sydd heb hawlio £1 miliwn wedi iddyn nhw ennill ar y Loteri Genedlaethol.

Roedd yna 25 o enillwyr yn Raffl Miliwnyddion yr EuroMillions ar Ddydd Calan.

21 yn unig sydd wedi hawlio’u gwobr.

HYW536466 yw cod y tocyn buddugol a gafodd ei brynu ym Mlaenau Gwent neu Dorfaen.

Cafodd y tri arall eu prynu yn ardal Llundain a’r Siroedd Cartref.

Bydd cyfle i’r enillwyr hawlio’u gwobr hyd at 11pm ar Fehefin 30.

Dywedodd llefarydd ar ran y Loteri Genedlaethol: “Dylai chwaraewyr ledled yr ardaloedd hyn checio’u tocynnau – gallen nhw fod werth £1 miliwn!

“Ceisiwch gofio nôl i Ddydd Calan a lle gallech chi fod wedi rhoi’r tocyn lwcus hwnnw yn ddiogel.

“Gallai eleni fod yn wahanol iawn gyda siec fawr yn eich llaw, felly tynnwch eich droriau allan ac edrychwch ym mhocedi eich trowsus – gallai’r tocyn fod yn cuddio yn unrhyw le.”

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi ennill y Loteri Genedlaethol ffonio 0845 910 0000 yn rhad ac am ddim o fewn 180 diwrnod.