Map o Mali (Varidon CCA3.0)
Mae un o awyrennau cargo yr awyrlu ar fin gadael maes awyr Brize Norton i hedfan i Mali ar gyfandir Affrica er mwyn cefnogi lluoedd arfog Ffrainc sy’n ymladd yn erbyn gwrthryfelwyr Islamaidd yno.
Cafodd lluoedd Ffrianc eu hanfon i Mali dydd Gwener wedi i lywodraeth Mali golli rheolaeth ar rannau o’r wlad sy’n strategol bwysig.
Mae’r gwrthryfelwyr yn rheoli gogledd Mali ers mis Ebrill diwethaf ac mae nhw’n ymladd eu ffordd tua de’r wlad.
Disgwylir lluoedd o wledydd agos i Mali, sef Niger, Burkina Faso, Nigeria a Togo i ddod i gefnogi’r llwydoraeth hefyd yn ystod y dyddiau nesaf.
Bydd yr awyren C-17 yn hedfan i Baris yn gyntaf i godi milwyr a nwyddau cyn hedfan ymlaen i Mali yfory. Fe fydd awyren gargo arall yn cael ei hanfon yn yr un modd yn ystod y dyddie nesaf.
Mae’r Gweinidog dros Affrica, Mark Simmonds wedi datgan na fydd unrhyw filwyr o Brydain yn mynd i Mali i ymladd ond fe fyddan nhw’n hyfforddi byddin Mali trwy un o gynlluniau’r Undeb Ewropeaidd.