Stephen Harper
Fe fydd Prif Weinidog Canada yn cyfarfod ag arweinwyr brodorion y wlad heddiw ar ôl misoedd o brotestiadau.
Mae un o’r arweinwyr brodorol wedi bod yn ymprydio ers mis er mwyn cael y cyfarfod i drafod eu cwynion.
Fe fyddan nhw’n gofyn i Stephen Harper ystyried nifer o ofynion, gan gynnwys:
- Ymchwiliad i ddiflaniad cannoedd o ferched brodorol tros y degawdau diwetha’ a hynny heb fawr o sylw gan yr awdurdodau.
- Sicrhau fod ysgol ym mhob cymuned frodorol.
- Dadwneud dwy ddeddf newydd sydd, medden nhw, yn ffafrio cloddio am fwynau yn hytrach na gwarchod yr amgylchedd.
- Sefydlu dull o edrych eto ar gytundebau hanesyddol rhwng y brodorion a’r Llywodraeth.