Mae biliau ynni pobol hŷn wedi dyblu ers 2005 yn ôl ymchwil gan gwmni Saga.

Ac maen nhw’n dweud bod bron i dri o bob pump pensiynwr yn poeni am eu costau gwresogi y gaeaf yma, a bod un o bob tri eisoes yn ei chael hi’n anodd talu’r biliau.

Mae Saga’n dadlau fod codiadau yng nghostau byw yn taro pobol hŷn yn fwy na phobol iau am eu bod nhw’n ceisio byw oddi ar incwm gosod neu gynilon.

Yn 2005 roedd bil ynni blynyddol pensiynwyr yn £668.98 ar gyfartaledd ond erbyn y llynedd roedd wedi codi i £1,255.90.

Defnyddio cynilion

Dywedodd Ros Altmann, pennaeth Saga, fod 29% o bobol hŷn yn gorfod defnyddio’u cynilion bob mis er mwyn cadw dau pen llinyn ynghyd.

Yn ôl ymchwil gan gwmni yswiriant Prudential mae incwm blynyddol pensiynwyr ar ei isaf ers chwe blynedd.

Mae pobol sy’n ymddeol eleni yn debygol o gael incwm blynyddol o £15,300 ar gyfartaledd, sydd £3,400 yn is nag incwm gweithwyr oedd yn ymddeol yn 2008, cyn yr argyfwng ariannol.