Recep Erdogan (Randam CCA2.0)
Mae’r awdurdodau yn Ffrainc yn ymchwilio i lofruddiaeth tair o ymgyrchwyr Cwrdaidd ym Mharis.

Dau esboniad posib sydd wedi cael eu cynnig hyd yn hyn ar gyfer yr ymosodiad yn erbyn y merched a oedd yn rhan o blaid y PKK sy’n ymladd am annibyniaeth i’r Cwrdiaid yn Nhwrci.

Yn ôl Prif Weinidog Twrci, Recep Tayyip Erdogan, fe allai’r llofruddiaethau fod yn rhan o ymrafael rhwng gwahanol garfannau yn y PKK.

Ond mae gan lywodraeth Twrci hefyd record o ladd arweinwyr ac ymgyrchwyr y Cwrdiaid.

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Twrci’n trafod gyda’r PKK er mwyn ceisio perswadio’r blaid i roi’r gorau i’w hymgyrch filwrol sydd bron yn 30 oed.

‘Llofruddiaethau gwleidyddol’

Yn ôl radio Ffrainc, roedd y merched wedi eu saethu yn eu pennau gan ymosodwr a ddefnyddiodd dawelwr ar ei ddryll.

Fe gasglodd cannoedd o gefnogwyr y Cwrdiaid y tu allan i’r adeilad lle digwyddodd yr ymosodiad gan gyhuddo Llywodraeth Twrci o “lofruddiaethau gwleidyddol”.

an, fe allai’r llofruddiaethau fod yn rhan o ymrafael rhwng gwahanol garfannau yn y PKK.