Fe allai Barack Obama ail-drefnu ei dim arlywyddol yr wythnos nesa’, wrth iddo dderbyn enwebiad ar gyfer swydd Ysgrifennydd Amddiffyn a ras bosib i fod yn arweinydd nesaf y CIA.

Y cyn-seneddwr Gweriniaethol, Chuck Hagel o Nebraska ydi’r ceffyl blaen ar gyfer prif swydd y Pentagon (Ysgrifennydd Amddiffyn).

At hynny, mae disgwyl mai cyfarwyddwr dros-dro presennol y CIA, Michael Morell, fydd yn herio ymgynghorydd gwrth-derfysgaeth presennol Obama, John Brennan, am brif job yr asiantaeth ddiogelwch.

Yn ôl llefarydd ar ran y Ty Gwyn, dydi’r Arlywydd ddim wedi gwneud penderfyniad terfynol ynglyn â’r un o’r ddwy swydd. Mae disgwyl iddo ddychwelyd o’i wyliau yn Hawaii i Washington, fory.