Mae sarjant yn llu awyr Sawdi Arabia yn y ddalfa yn Las Vegas, wedi ei gyhuddo o ddwyn bachgen ifanc i mewn i ystafell mewn gwesty ac ymosod yn rhywiol arno.

Mae Mazen Alotaibi, 23, yn wynebu cyhuddiadau sy’n cynnwys herwgipio ac ymosod yn rhywiol, ac fe allai wynebu ddegawdau yn y carchar pe bai’r llys yn ei gael yn euog.

Mae’r bachgen, sydd dan 14 mlwydd oed, wedi dweud wrth yr heddlu fod y dyn wedi ei orfodi i mewn i ystafell yng ngwesty’r Circus Circus ar y Las Vegas Strip ar Nos Calan, cyn ei dreisio.

Mae cyfreithiwr Mazen Alotaibi, Don Chairez, yn dweud fod ei gleient wedi dod i Las Vegas ar gyfer dathliadau’r Flwyddyn Newydd, ac y byddai’n pledio’n ddieuog i’r cyhuddiadau.