Mae heddlu yn Colombia yn ymchwilio i adroddiadau fod dau gyfrifiadur wedi eu dwyn o lysgenhadaeth Honduras yn y brifddinas, Bogota, yn ystod parti a gafodd ei gynnal yno.

Mae amheuon fod puteiniaid wedi eu gwahodd i’r parti. Yn ôl un o benaethiaid yr heddlu, maen nhw’n chwilio am “ddwy wraig a gafodd eu contracio” a fu yn y parti ar Ragfyr 20.

Mae swyddogion llysgenhadaeth Honduras wedi cadarnhau fod parti wedi ei gynnal, a bod dau gyfrifiadur wedi cael eu dwyn. Ond maen nhw’n dymuno delio â’r mater yn fewnol, medden nhw wedyn.