Mae dau o bobl wedi cael eu lladd mewn damwain awyren ym maes awyr Vnukovo ym Moscow.

Wrth godi oddi ar y llain esgyn y prynhawn yma fe falodd yr awyren jet Tupolev a mynd ar dân.

Yn ôl adroddiadau newyddion, roedd tua dwsin o bobl ar ei bwrdd a chafodd amryw ohonyn nhw’u hanafu’n ddifrifol.

Cyhoeddodd sianel newyddion y wladwriaeth, Vesti, fod dau wedi cael eu lladd.

Vnukovo yw trydydd maes awyr Moscow o ran prysurdeb, ac roedd  yr awyren yn eiddo i gwmni hedfan o Rwsia, Red Wings.