Arlywydd Syria, Bashar Assad (Agencia Brasil CCA 2.5)
Mae cennad y Cenhedloedd Unedig sy’n gyfrifol am geisio heddwch yn Syria wedi rhybuddio bod gwledydd cyfagos yn wynebu argyfwng llif o ffoaduriaid os bydd pethau’n gwaethygu yn y wlad.

Dywed Lakhdar Brahimi na fyddai gan Libanus na’r Iorddonnen obaith o allu dygymod â’r niferoedd a allai ffoi o Syria os bydd y gwrthdaro’n dwysáu.

“Os bydd panig yn Damascus a miliwn o bobl yn gadael Damascus mewn panig, does ganddyn nhw ond dau le i fynd – Libanus ac Iorddonnen,” meddai, gan rybyuddio y byddai hanner miliwn o ffoaduriaid yn ddigon i dorri’r ddwy wlad.

“Os mai’r unig ddewis o ddifrif yw uffern neu broses wleidyddol, yna mae’n rhaid inni i gyd weithio’n ddiflino am broses wleidyddol.”

Roedd Mr Brahimi’n siarad ar ôl cyfarfod gweinidog tramor Rwsia, Sergey Lavror, ym Moscow, ond wnaeth y naill na’r llall ddim dangos unrhyw arwydd o gynnydd tuag at ddatrys y rhyfel cartref sydd wedi achosi hyd at 40,000 o farwolaethau dros y 21 mis diwethaf.

Mae Rwsia’n gyson wedi gwrthwynebu galwad gwledydd y gorllewin am ymddiswyddiad arlywydd Syria, Bashar Assad.