Aelod Cynulliad Gorllewin Clwyd, Darren Millar
Rhaid atal cynlluniau dadleuol i symud gwasanaethau gofal dwys newydd-anedig o ogledd Cymru i lannau Mersi, yn ôl Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid Darren Millar.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cynnig y dylai gwasanaethau newydd-anedig gael eu trosglwyddo o ysbytai Glan Clwyd a Wrecsam Maelor i ysbyty Arrowe Park ar benrhyn Cilgwri.

Dywed Darren Millar, Aelod Cynulliad Gorllewin Clwyd, ei fod yn fwy pryderus fyth ar ôl gweld llythyr gan brif nyrs Adran Merched a Phlant Arrow Park at weithwyr yr ysbyty lle mae’n cwyno am ddirywiad mewn safonau a staff anghwrtais.

Safonau

“Mae’r llythyr yma’n brawf pellach fod safonau gofal Ysbyty Arrowe Park yn sylweddol is na’r safon ofynnol ar gyfer babanod o ogledd Cymru,” meddai.

“Os yw’r prif nyrs yn Arrowe Park yn mynegi pryderon, yna all neb o ogledd Cymru fod â hyder y bydd y gwasanaethau hyn o ansawdd a chynaliadwyeddd digonol i fabanod o’n rhanbarth.

“Mae bellach yn gwbl amlwg fod cynlluniau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ail-leoli gwasanaethau newydd-anedig i’r Wirral yn sylfaenol ddiffygiol ac y dylid rhoi’r gorau iddyn nhw unwaith ac am byth.

“Rhaid i’r bwrdd iechyd symud yn gyflym i roi ymrwymiad i gynnal gwasanaethau newydd-anedig yng ngogledd Cymru a buddsoddi yn y rhain ar gyfer y tymor hir.”