Mae’n debyg y bydd cyn-arlywydd De Affrica, Nelson Mandela, yn aros yn yr ysbyty dros y Nadolig.
Mae llefarydd ar ran yr ysbyty yn Pretoria, lle mae’r gwleidydd wedi bod yn derbyn triniaeth at haint ar ei ysgfaint ers Rhagfyr 8, wedi cadarnhau na fydd yn dychwelyd gartre’ “yn fuan”.
Y Sadwrn diwetha’, fe gafodd lawdriniaeth i dynnu cerrig bustl.
Mae meddygon hefyd wedi cadarnhau fod Nelson Mandela yn ymateb yn dda i gyffuriau.