Mae’r gwasanaethau achub yn chwilio am ddyn sydd ar goll yn y môr wedi i’w gwch droi drosodd.
Mae gwylwyr y glannau yn ardal harbwr Poole yn sir Dorset, yn dweud iddyn nhw dderbyn galwad frys wedi i ddau o bobol gael eu gweld yn y dwr ac yn dal gafael yn dynn yn eu cwch.
Fe gafodd y dynion hynny eu hachub a’u cludo i Ysbyty Poole. Mae’r bad achub erbyn hyn yn cydweithio â gwylwyr y glannau er mwyn ceisio dod o hyd i drydydd person a oedd hefyd ar fwrdd y cwch.
“Rydyn ni yng nghanol ymgyrch fawr i ddarganfod y trydydd person,” meddai llefarydd ar ran gwylwyr y glannau yn Dorset.
Fe aeth y cwch i drafferthion ger Ynys Brownsea, a phobol ar y lan oedd yn gyfrifol am wneud yr alwad 999.