Mae banc Barclays wedi gofyn i gyn-fos yn y Ddinas yn Llundain i ddweud wrtho sut mae torri’n ôl ar gyflogau a thaliadau bonws, pan fydd yn ymuno â’r banc y mis nesa’.
Mae Hector Sants wedi ei benodi i swydd Pennaeth newydd o fewn y banc, gyda’r cyfrifoldeb arbennig o ail-ysgrifennu strategaeth y banc ac ail-adeiladu enw da’r sefydliad.
Ond, er mai torri’n ôl ar wariant gormodol ydi gwaith Hector Sants, mae ei becyn cyflog ef ei hun wedi cael cryn dipyn o sylw. Yr wythnos ddiwetha’, fe gyhoeddwyd y gallai ei gyflog ef fod cymaint â £3m y flwyddyn.
Mae hynny’n cynnwys cyflog sylfaenol o £700,000, bonws o tua £1m ynghyd â phecyn o fuddion sydd cymaint â £1.5m.