Mae’r darlledwr ITV yn prynu cyfran sylweddol o gwmni cynhyrchu rhaglenni realaeth yn America.
Daeth cyhoeddiad heddiw fod ITV yn mynd i fod berchen 61% o gyfranddaliadau Gurney Productions, am $40m (neu £24.7m).
Y cwmni hwnnw sy’n gyfrifol am gyfres teledu cêbl, Duck Dynasty.
Mae’r ddêl ddiweddara’ hon hefyd yn rhoi’r cynnig i ITV brynu gweddill y cyfranddaliadau yn y cwmni a gafodd ei sefydlu yn 1995 gan Scott a Deirdre Gurney.
“Mae gweld twf yn adain TV Studios yn rhan allweddol o’r strategaeth i ail-falansio’r grwp,” meddai Adam Crozier, Prif Weithredwr ITV.
“Rydyn ni’n gweld yr Unol Daleithiau fel marchnad greadigol allweddol, ac mae sicrhau presenoldeb amlwg yno yn ganolog.”
Mae ITV Studios America wedi bod yn tyfu’n gyson dros y ddwy flynedd ddiwetha’.