Mi fethodd y Frenhines â mynd i’r eglwys ar stad Sandringham heddiw, oherwydd bod ganddi annwyd.
Yn ôl llefarydd ar ran Palas Buckingham, doedd hi ddim yn bosib i’r Frenhines fynd i Eglwys Santes Fair Magdalen, fel y mae’n gwneud bob dydd Sul y mae’n ei dreulio yn ei chartre’ yn swydd Norfolk.
“Roedd y Frenhines yn dod dros ddôs o annwyd,” meddai llefarydd ar ei rhan.
“Rydyn ni’n disgwyl iddi fod yn holliach erbyn yr wythnos nesa’, ac y bydd popeth yn digwydd fel arfer.”