Fe fyddai cost diodydd Nadolig teulu yn cynyddu o tua £17, pe bai cynlluniau i godi pris pob uned o alcohol yn cael eu derbyn yng Nghymru a Lloegr.

Mae’r Gymdeithas Diwydiant Gwin a Gwirod (WSTA) yn dweud y byddai gosod pris o 50c ar bob uned o alcohol, yn cynyddu cost gwin, cwrw a gwirod y Nadolig o draean.

Mae gweinidogion yn Llundain wedi cyhoeddi cynllun i osod pris o 45c ar bob uned o alcohol – ac maen nhw’n honni y gallai hynny dorri 3.3% ar y nifer o bobol sy’n yfed.

Byddai hynny, yn ei dro, meddai gweinidogion y llywodraeth, yn osgoi 5,000 o droseddau sy’n gysylltiedig ag alcohol bob blwyddyn, ac yn lleihau y nifer o ymweliadau ag ysbytai o 24,000.