Mae prif weinidog yr Eidal, Mario Monti, wedi cyhoeddi na fydd yn sefyll etholiad eto ym mis Chwefror.

Ond, pe bai pleidiau gwleidyddol yn penderfynu cefnogi ei gynllun er mwyn dod allan o’r creisis ariannol ac yn gofyn iddo arwain y llywodraeth nesa’, fe fyddai’n ystyried y cynnig.

“Does gen i ddim cydymdeimlad o gwbwl gyda phleidiau unigolyddol,” meddai Mario Monti mewn cynhadledd newyddion heddiw.

Mae hefyd wedi gwrthod y cynnig gan y cyn-brif weinidog, Sylvio Berlusconi, i sefyll ar agenda asgell dde.

Fe gafodd Mario Monti ei benodi’n brif weinidog 13 mis yn ôl, gyda’r brîff penodol o fynd i’r afael ag argyfwng ariannol y wlad.