Mae pâr oedrannus o Sir y Fflint wedi derbyn triniaeth yn yr ysbyty, ar ôl i bobol dorri i mewn i’w cartre’.
Yn ôl datganiad gan Heddlu Gogledd Cymru, fe gafodd y gwr a’i wraig o bentre’ Bwcle eu gwthio i’r llawr ar ôl styrbio lladron yn eu cartre’ tua 9.20 nos Wener.
Mae tri dyn wedi cael eu harestio ar ôl y digwyddiad, ac fe dreuliodd y gwr oedrannus noson yn yr ysbyty.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dal i ymchwilio i’r digwyddiad.