Mae plant Newtown, Connecticut wedi derbyn degau o filoedd o deganau gan bobol ar draws y byd, wedi i wr arfog saethu’n farw 20 o’u cyd-ddisgyblion yr wythnos ddiwetha’.

Mae tedis, doliau Barbie, pêli pêl-droed a gemau bwrdd wedi cael eu hanfon i’r dre’ sy’n dal i alaru digwyddiadau Rhagfyr 14.

Ychydig dros wythnos yn ôl, fe gafodd 20 o blant a 6 o staff Ysgol Gynradd Sandy Hook eu saethu’n farw gan Adam Lanza, 20 oed.

Roedd o eisoes wedi lladd ei fam cyn mynd i’r ysgol. Yna, fe drodd y gwn arno ef ei hun. Does neb yn gwybod eto beth oedd y rheswm tros y saethu.

Angladdau

Ddyddiau cyn y Nadolig, mae angladdau’n dal i gael eu cynnal.

Ddoe, fe gynhaliwyd cynhebryngau Emilie Parker (6 oed) yn Ogden, Utah; ynghyd â Josephine Gray, 7, ac Ana Marquez-Greene, 6 oed, yn Connecticut.

Cart a cheffyl a ddaeth ag arch fechan Ana i eglwys yn Bloomfield, lle’r oedd 1,000 o alarwyr wedi ymgynnull.

Roedd y gwasanaeth yn cynnwys perfformiad gan y cerddor jazz, Harry Connick Jr, sydd wedi chwarae gyda thad y ferch fach, Jimmy Greene.

Yn Ogden, roedd trigolion wedi clymu rhubanau pinc o gwmpas cyff coed a pholion teligraff, i gofio Emilie Parker. Ei thad hi, Robert Parker, oedd un o’r rhai cynta’ i siarad yn gyhoeddus am ei golled, ac i ddweud nad yw’n teimlo unrhyw ddicter tuag at y saethwr.

Tegan i bawb

Mae pob un o blant Newtown wedi cael gwahoddiad i Neuadd Edmond, er mwyn iddyn nhw gael dewis tegan.

“Dyma ffordd pobol o alaru,” meddai llefarydd ar ran y pwyllgor sy’n rhannu’r teganau. “Dyma eu ffordd nhw o ddweud eu bod nhw’n teimlo’n drist, a dyma eu ffordd nhw o wneud rhywbeth i estyn llaw.”

Erbyn ddoe, roedd $2.8m wedi’i dderbyn yn y gronfa swyddogol.