Mae un o’r dynion a gafodd eu hanafu mewn damwain ffordd ar yr M4 ddoe, wedi marw yn Ysbyty’r Brifysgol, Caerdydd.

Roedd lori wedi gadael y ffordd toc wedi chwech o’r gloch fore ddoe, ond roedd hi wedi taro nifer o geir eraill ar ei ffordd.

Fe gafodd gwr 42 mlwydd oed o Tewkesbury ei gludo i Ysbyty’r Brifddinas, Caerdydd, wedi ei anafu’n ddifrifol. Bu farw yn yr ysbyty.

Mae’r gwr arall a gafodd ei gario i’r un ysbyty yn dal mewn cyflwr sefydlog.

Mae Heddlu Gwent yn dal i ofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad, i gysylltu â nhw ar y rhif 101.